#42

Archwilio potensial credydau amser yn eich sefydliad

1

Problem

Mae credydau amser yn cael eu rhedeg gan Tempo (Just Add Spice gynt), elusen a ddechreuwyd yng Nghymru yn 2008 ac sydd bellach yn gweithio ledled y DU. Mae credydau amser yn dal i ysbrydoli pobl i roi o’u hamser, i wneud ffrindiau a chysylltiadau newydd ac i ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael iddyn nhw. Dangosodd adroddiad argraff diweddar fod 83% o’r bobl a oedd yn ymwneud â chredydau amser yn adrodd fod ansawdd eu bywyd wedi gwella, roedd 52% yn teimlo’n llai ynysig ac unig, a rhannodd 60% eu sgiliau ag eraill.

2

Newid Syml

Os oes system credyd amser yn gweithredu yn eich ardal chi, dylech annog defnydd ohono fel dull o atgyfnerthu a chymell gweithgareddau cymunedol yn eich ardal. Mae’n dangos eich bod chi’n gwerthfawrogi gweld trigolion lleol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol.