#54
Cymryd rhan yn y Diwrnod Chwarae Cenedlaethol
Problem
Gwyddom ers cryn amser fod gan chwarae rôl sylweddol mewn adeiladu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasu, gwerthfawrogiad esthetig, creadigrwydd a datrys problemau. Mae astudiaethau hefyd yn cadarnhau fod chwarae’n ffactor sylweddol mewn datblygu ffibrau ymenyddol a chyhyrol, a’n gallu i feddwl yn adlewyrchol. Yr enw a roddir i’r cysyniad fod colli cyfle i chwarae yn andwyol i blant o ran datblygiad yw ‘Diffyg Chwarae’.
Newid Syml
Drwy ymwneud â Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, cefnogi ac annog teuluoedd i gymryd rhan drwy eich cymuned, neu fod yn rhan o’i ddatblygiad, rydych chi’n dathlu hawl plentyn i chwarae.