#32

Cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth byddardod a Iaith arwyddo Prydeinig (BSL) ar gyfer eich rheng flaen

1

Problem

Mae rhyw 575,000 o bobl yng Nghymru’n drwm eu clyw neu’n fyddar – cynifer â holl boblogaeth Caerdydd ac Abertawe ar y cyd. Mae llawer o bobl fyddar yn wynebu anghyfartaledd iechyd ac maen nhw’n fwy tebygol o brofi llesiant meddwl drwg. Efallai na fydd staff mewn cyrff cyhoeddus nad oes ganddynt gyswllt â’r gymuned fyddar yn gwerthfawrogi mai BSL yw iaith gyntaf llawer o bobl fyddar ac efallai eu bod wedi derbyn cefnogaeth annigonol yn yr ysgol mewn Saesneg. Mae BSL yn rhan enfawr o ddiwylliant a hunaniaeth y grŵp hwn.

2

Newid Syml

Drwy gynnig hyfforddiant i’ch staff rheng flaen, rydych chi’n gweithio tuag at gymdeithas fwy cyfartal a chynhwysol drwy sicrhau fod pawb yn gallu cael mynediad i’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Dwylo Creadigol Byddar Caerdydd

Aeth Helen Green, ein cydlynydd nodau ar gyfer Cymru fwy cyfartal i Dwylo Creadigol Byddar Caerdydd, sy’n cenhadu i atal rhwystrau ieithyddol ac amddifadedd ieithyddol.

Resources

More Information about: Cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth byddardod a Iaith arwyddo Prydeinig (BSL) ar gyfer eich rheng flaen