#22
Darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl a hunanladdiad i bob aelod o staff.
Problem
Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn amcangyfrif fod 49% o ddyddiau salwch yn deillio o bwysau gwaith, gorbryder neu iselder. Dangosodd arolwg diweddar gan Mind fod un o bob pum person yn teimlo na allen nhw ddweud wrth eu bos eu bod dan ormod o bwysau yn y gwaith, ac roedd llai na hanner y bobl a gafodd ddiagnosis o broblem iechyd meddwl wedi dweud hynny wrth ei reolwr.
Newid Syml
Mae’n hanfodol fod staff yn gallu adnabod iechyd meddwl drwg ac ymddygiad a allai arwain at hunanladdiad, ynddyn nhw eu hunain ac mewn eraill, a theimlo’n ddigon cryf i weithredu’n gadarnhaol. Gallai hyn olygu codi pryder gydag aelod o Adnoddau Dynol, trefnu ymweliad â’r meddyg teulu, neu gallu arwyddo pobl i gyfeiriad asiantaethau perthnasol i dderbyn cyngor a chefnogaeth.
Astudiaeth achos
Mae’r elusen Mind wedi cynhyrchu’r fideo hwn gyda Trystan yn Welsh Water - Dwr Cymru, am sut y mae hyfforddiant iechyd meddwl gan ei gyflogwr wedi’i helpu i fynd yn ôl i’r gwaith ar ôl gorfod cymryd amser i ffwrdd oherwydd iselder.