#25
Cael polisi gweithio hyblyg
Problem
Datgelodd arolwg yn 2016 gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod cyflogwyr Cymru’n cwympo tu ôl i’r Alban a Lloger wrth gynnig gweithio hyblyg. Gall patrymau gweithio anhyblyg gael effaith andwyol ar ein bywydau prysur, ac mae llawer o ystadegau’n dangos eu bod nhw’n effeithio’n anghyfartal ar fenywod.
Newid Syml
Gall ymyriadau gweithio hyblyg sy’n cynyddu’r dewis a’r rheolaeth sydd gan y gweithiwr (fel oriau hyblyg, penderfynu ar amserlen eich hun, neu ymddeoliad rhannol / cynyddol) wella cynhyrchiant busnesau o gymaint â 65%. Drwy gyflwyno neu wella eich polisi gweithio hyblyg, galwch ddangos eich bod chi’n gwerthfawrogi llesiant staff, a rhoi budd i waith eich sefydliad yr un pryd.
Cael polisi gweithio hyblyg
Mae Sarah Rees yn fam i ddau, yn flogiwr ac yn arweinydd Plaid Cydraddoldeb i Ferched Cymru. Mae hi’n ymgyrchu gyda ‘Flex Appeal’ i ddynodi Caerdydd fel y ddinas gweithio hyblyg gyntaf.
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru iachach
You have earned...
Cymru iachach
Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
You have earned...
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang