#66
Adolygu eich agwedd at ffoaduriaid a cheiswyr lloches a chwarae eich rhan wrth beri i Gymru ddod yn Genedl Loches
Problem
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn disgrifio newid hinsawdd fel ‘ymysg y bygythiad mwyaf i iechyd yn yr 21ain ganrif’, gydag effaith gynyddol ar ein gallu i reoli clefydau, ymfudo, cyflenwadau dŵr glân ac anghyfartaledd amlwg rhwng y rhywiau ac o fewn cymdeithas, wrth i’r sefyllfa waethygu. Mae cenedl gyfrifol yn fydeang yn croesawu’i chyfran deg o ffoaduriaid a allai fod wedi cael eu dadleoli oherwydd newid hinsawdd neu ryfel.
Newid Syml
Drwy weithio mewn partneriaeth ag eraill o bob ffydd a chefndir, gallwch greu dyfodol heddychlon. Dylai eich polisïau gynnwys gweithredu ar gyfer: cynyddu ymwybyddiaeth o faterion ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a darparu cefnogaeth i geiswyr lloches integreiddio yn eich ardal.