#74
Sicrhau eich bod chi’n cael sgyrsiau ‘beth sy’n bwysig’
Problem
Yn aml bydd sefydliadau’n ceisio barn pobl am faterion strategol allweddol fel cyllidebau neu benderfyniadau penodol fel ceisiadau cynllunio neu newidiadau mewn gwasanaeth – mae’r dull hwn o weithio’n dechrau gydag anghenion y sefydliad.
Newid Syml
Dull amgen o weithio yw cynnal sgyrsiau ‘beth sy’n bwysig’ sy’n helpu sefydliadau i ddeall pobl yng nghyd-destun eu bywydau’u hunain a’r pethau sydd fwyaf pwysig iddyn nhw.