#59
Cefnogi a hybu’r Cynllun Noson Allan
Problem
Gall diffyg gofod theatr, cyllid a / neu fynediad i gysylltiadau trafnidiaeth osod rhwystrau i atal pobl rhag cael mynediad i weithgareddau celfyddydol proffesiynol, yn arbennig mewn cymunedau llai a rhai mwy gwledig. Mae Noson Allan yn gynllun a redir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, syn helpu grwpiau cymunedol lleol i gynnal perfformiadau proffesiynol byw mewn lleoedd cymunedol, heb orfod mynd i berygl ariannol. Llynedd llwyfannodd 319 grŵp hybu gwahanol 511 perfformiad ledled Cymru drwy gyfrwng cynllun Noson Allan.
Newid Syml
Drwy gefnogi a hybu cynllun Noson Allan, byddwch chi’n helpu cymunedau llai i gael mynediad i’r celfyddydau a mwynhau manteision diwylliannol a chymunedol ehangach a gynigir gan y cynllun.Astudiaeth achos
Noson Allan
Mae cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru ‘Noson Allan’ yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i helpu grwpiau o wirfoddolwyr hyd a lled Cymru i ddwyn y celfyddydau i ganol eu cymunedau. Gall grwpiau cymunedol ddewis o ystod eang o berfformwyr proffesiynol a’u gosod mewn cymunedau neu neuaddau pentref a lleoliadau anhraddodiadol eraill hyd a lled y wlad.
Resources
More Information about: Cefnogi a hybu’r Cynllun Noson Allan