#80
Wneud ymarfer ‘fe ddywedoch chi fe wnaethon ni’
Problem
Yn 2014/15, roedd 20% o bobl Cymru’n cytuno eu bod nhw’n gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol, o’i gymharu â 24% yn 2012/13. Pan nad yw pobl yn teimlo eu bod yn rhan o wasanaeth, maen nhw’n llai tebygol o deimlo ymwybyddiaeth o berthyn neu o berchnogaeth. Serch hynny, os ydyn nhw’n lleisio’u barn ar fater, ond heb weld neu ddeall a ydyn nhw wedi dylanwadu ar unrhyw newid, efallai eu bod yn teimlo eu bod wedi’u dirymu, a bod y cyfan yn ddim mwy nag ymarfer.
Newid Syml
Drwy gynnal ymarfer ‘fe ddywedoch chi fe wnaethon ni’, rydych chi’n dangos eich bod chi’n gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i’w ddweud drwy roi cyhoeddusrwydd i sylwadau, awgrymiadau ac adborth pobl. Mae’n bwysig fod newidiadau’n cael eu gwneud wedyn o ganlyniad i’r ymwneud hwnnw, a bod y newidiadau hynny’n cael eu cyfathrebu i’r cyhoedd.
Fe ddywedoch chi fe wnaethon ni
Junaid Iqbal, Arweinydd Profiadau Defnyddwyr Gwasanaeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae e’n esbonio’r tri phrif gyngor sydd ganddo ar gyfer gwneud gwybodaeth yn hygyrch i’r cyhoedd.Mae hyn yn cynnwys cau’r ddolen ac esbonio sut y bu i chi ddefnyddio’r wybodaeth a gawsoch ar ôl i chi ymgysylltu ag aelod o’r gymuned.
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Ymgyfraniad
You have earned...
Ymgyfraniad
Cymru sy’n fwy cyfartal
You have earned...
Cymru sy’n fwy cyfartal
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd)
Cymru o gymunedau cydlynus
You have earned...
Cymru o gymunedau cydlynus
Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da